![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | elfen gemegol, metal metalig, Alergen, metel gwerthfawr ![]() |
---|---|
Math | elfen frodorol ar ffurf mwyn ![]() |
Lliw/iau | aur ![]() |
Màs | 196.96657 ±5e-07 uned Dalton ![]() |
Fformiwla gemegol | Au ![]() |
Clefydau i'w trin | Crydcymalau gwynegol ![]() |
Dyddiad darganfod | c. Mileniwm 6. CC ![]() |
Symbol | Au ![]() |
Rhif atomig | 79 ![]() |
Electronegatifedd | 2.54 ![]() |
Cyflwr ocsidiad | 2.54 ![]() |
Rhan o | Elfen cyfnod 6, Elfen Grŵp 11 ![]() |
![]() |
Aur
| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
![]() | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Symbol | Au | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rhif | 79 | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dwysedd | 19300 kg m-3 |
Metel melyn disglair meddal yw aur, elfen gemegol yn y tabl cyfnodol ac iddo'r symbol Au
a'r rhif 79. Mae aur yn werthfawr iawn, ac yn ddefnyddiol ym meysydd deintyddiaeth, electroneg a gemwaith. Côd ISO 4217 aur yw XAU
. Ychydig iawn o aur, bellach, sy'n cael ei gloddio yng Nghymru.
Defnyddiodd y Celtiaid aur ar gyfer addurniadau cain iawn megis torchau aur a Chlogyn Aur yr Wyddgrug, sy'n dyddio o'r cyfnod rhwng 1900-1500 CC yn ystod Oes yr Efydd. Mae'n fwy na thebyg i'r fantell gael ei siapio yng Nghymru ond i'r aur gael ei gloddio yn Iwerddon.
Cloddiwyd aur yn Nolaucothi, Sir Gaerfyrddin ers o leiaf cyfnod y Rhufeiniaid: safle sydd ar Ystâd Dolaucothi ac sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Hyd y gwyddys, dyma'r unig olion o gloddio am aur gan y Rhufeiniaid ar ynysoedd Prydain. Dolaucothi yw’r unig fwynfeydd aur yng Nghymru tu allan i ardal Dolgellau.
Ceir y ddau gloddfa yn ardal Dolgellau, Clogau (78,507 owns a gloddiwyd 1862–1911) a Gwynfynydd (40,054 owns o 1862–1916). Crefftwyd Disg Haul Banc Ty'n-ddôl o aur yng nghyfnod y Diwylliant Bicer Gloch (c. 2000 CC), sef y darn cynharaf o aur i'w ganfod yng Nghymru. Ceir tystiolaeth hefyd bod tywysogion cynnar Cymru wedi gwisgo torchau aur – er nad yw'n glir, hyd yma, a oedd yr aur hynafol hwnnw yn cael ei gloddio yng Nghymru neu yn Iwerddon.
Bôn y gair eurych yw aur. Crefftwr sy'n gweithio gydag aur yw 'eurych' neu 'eurof'. Yn yr oesoedd canol roedd yn grefftwr teithiol. Wrth i gymdeithas a'r economi ddatblygu dichon bod gwaith yr eurych proffesiynol wedi ehangu a wedyn bod y werin wedi dechrau defnyddio'r gair am unrhyw weithiwr crwydrol ac daeth yn air arall am dincar. O ran y sillafiad mae 'na gryn dipyn o amrywio rhwng 'e' ac 'y' (y sain glir) yn y Gymraeg. Pan fo'r llafariad yn ddiacen y digwydd hyn e.e. mae 'edrych' yn troi'n 'edrech' a phan ogledd-orllewineiddiwyd y gair cawsom 'edrach'. Dyddia'r dystiolaeth gynharaf o neu a > e mewn sillaf ôl-acennog o'r 16g. Byddai hyn yn egluro'r ffurf safonol 'eurych' a'r ffurf lafar 'eurach'. Nodir tua 40 o enwau lleoedd y Nghymru yn cyfeirio at *eurych*