"Mwstard swlffwr" ydy gair y gwyddonydd am y nwy cytotocsig hwn, sy'n achosi swigod mawr ar y croen neu yn yr ysgyfaint. Cafodd ei ddefnyddio'n gyntaf fel nwy gwenwynig gan Wilhelm Lommel a Wilhelm Steinkopf, a ddatblygodd dull effeithiol i'w fas-gynhyrchu ar gyfer byddin Ymerodraeth yr Almaen ym 1916.
Mae Nwy mwstard a elwir hefyd yn Swlffwr mwstard yn arf cemegol a ddefnyddiwyd gyntaf yn y Rhyfel Byd Cyntaf gan yr Almaenwyr.
Rheolir y defnydd o'r nwy hwn, heddiw, gan Gonfensiwn Arfau Cemegol 1993.
Roedd Gwaith y Dyffryn, Rhydymwyn yn ffatri gyfrinachol a godwyd ym 1939-40 i storio'r arf cemegol. Dewiswyd Rhydymwyn gan ICI oherwydd presenoldeb rheilffordd a phriffordd mewn ardal weddol diarffordd, gyda digon o ddŵr croyw o'r Afon Alun gerllaw. Roedd y lleoliad hefyd yn ddim ond 30 milltir i ffwrdd o brif safle'r cwmni, Gwaith Rundle, ar Ynys Wigg, yn Runcorn, lle roedd yn cynhyrchu nwy mwstart. Cafwyd gwared a stor anferthol o'r nwy yn 1958.
|month=
ignored (help)CS1 maint: unrecognized language (link)