Offerynnau cerdd yw pethau sy'n cael eu defnyddio i wneud cerddoriaeth.
Efallai mai'r ffurf gyntaf o gerddoriaeth oedd canu - defnyddio'r llais dynol ac mae defnyddioi'r corff - curo dwylo neu guro'r traed ar lawr i wneud rhythm yn hynafol iawn. Y datblygiad nesa fysai defnyddio pethau y darganfuwyd megis cyrn anifeiliaid neu foncyffion gwag. Dros amser, datblygwyd nifer helaeth o offerynnau gwahanol.
Mae sŵn yn dod o awyr sy'n dirgrynu, ac mae offerynnau yn gweithio trwy reoli a helaethu'r dirgryniadau i wneud effaith ddymunol a phleserus.
Offerynnau taro : Yn y byd cerddorol mae offer tannau sy ddim yn perthyn i deulu'r ffidil, e.e. telyn, gitâr, yn cael eu hystyried fel offerynnau taro, er bod tannau ganddyn nhw ac er bod y cerddor yn eu tynnu yn hytrach na'u taro. Mae piano a harpsicord hefyd yn cael eu hystyried fel offerynnau taro.